Eisteddfod

 

Eisteddfod yr Ysgol

Diwrnod heb wersi. Diwrnod o wrando a gwylio, o gymeradwyo a gweiddi cefnogaeth. Diwrnod ble mae’r lliwiau coch, gwyrdd a melyn yn toddi i’w gilydd. Diwrnod ble mae cyfle i bawb ymlacio a mwynhau.

Pa ddiwrnod sy’n cael ei ddisgrifio? Wel diwrnod Eisteddfod Ysgol Glan y Môr!

eisteddfod
eisteddfod

Dyma un o uchafbwyntiau ein calendr blynyddol pan fydd cyfle i’r tri thŷ, Enlli, Gwylan a Tudwal gystadlu yn erbyn ei gilydd am dair tarian fawreddog- tarian am y marciau uchaf am waith cartref, tarian am y marciau uchaf am waith llwyfan a tharian fawr yr Eisteddfod ei hun. Ynghyd â chystadlaethau mwy traddodiadol eu naws mae yna hefyd lawr o gystadlaethau hwyliog a phoblogaidd megis
• actio sgriptiau
• meimio i gân
• creu hysbyseb
• dawnsio gwerin
• dawnsio disgo
• y côr

Un arall o uchafbwyntiau’r diwrnod ydy seremoni’r cadeirio pan gawn feirniadaeth ar waith ymgeiswyr yn y gystadleuaeth arbennig hon a chyhoeddi ffug enw’r llenor buddugol.

Oes yn sicr felly, mae cyfle i bawb, beth bynnag eu talent gael bod yn rhan o hwyl ein Heisteddfod ni yma yn Ysgol Glan y Môr.

 

Calendr

Cysylltu

Cyfeiriad: Ysgol Glan y Môr, Ffordd Caerdydd, Pwllheli, Gwynedd LL53 5NU
Ffôn: 01758 701244
Ffacs: 01758 701310
E-bost: swyddfa@glanymor.ysgoliongwynedd.cymru