Ysgol

 

image

“Sicrhau addysg o’r safon uchaf bosib i bob disgybl a’u harwain i ddatblygu yn unigolion cyfrifol, aeddfed a llawn o’n cymdeithas ddwyieithog.”

Ysgol gyfun ddwyieithog ar gyfer disgyblion rhwng 11-16 oed sy’n cael ei chynnal gan Awdurdod Addysg Gwynedd yw Ysgol Glan Y Môr.

Ein nod yn yr ysgol yw cynnig addysg o’r safon uchaf bosib i bob disgybl a’u harwain i ddatblygu yn unigolion cyfrifol, aeddfed a llawn o’n cymdeithas ddwyieithog.

Anogir pob disgybl i ddatblygu hunan barch ac agwedd bositif a chyfrifol tuag at fywyd yn gyffredinol ac ymdrechwn i gymell y disgyblion i lwyddo hyd eithaf eu gallu bob amser.


Tra’n gweithio i wireddu hyn gyda’r disgyblion , fe ymrwymwn i gynnwys rhieni fel partneriaid yn ein hymdrechion.  Mae’r bartneriaeth yma yn holl bwysig er lles pob disgybl ac edrychaf ymlaen at gydweithio gyda chi er mwyn sicrhau dyfodol llwyddiannus i’ch plentyn.

Rwy’n gobeithio y cewch flas o’r hyn a gynigir yn Ysgol Glan Y Môr drwy bori drwy dudalennau’r wefan hon.

 

 

Calendr

Cysylltu

Cyfeiriad: Ysgol Glan y Môr, Ffordd Caerdydd, Pwllheli, Gwynedd LL53 5NU
Ffôn: 01758 701244
Ffacs: 01758 701310
E-bost: swyddfa@glanymor.ysgoliongwynedd.cymru